Delwedd Eang o’r Retina (Optomap) |
Mae'r delwedd eang unigryw optomap yn helpu eich optometrydd i ganfod arwyddion cynnar o glefyd y retina yn fwy effeithiol ac effeithlon.

Mae cael delwedd optomap yn gyflym, yn ddiboen ac yn gyfforddus. Does dim byd yn cyffwrdd â'ch llygad ar unrhyw adeg. Mae'n addas ar gyfer y teulu cyfan. I gael yr archwiliad, rydych chi'n edrych i mewn i'r ddyfais un llygad ar y tro (fel edrych trwy dwll clo) a byddwch chi'n gweld fflach o olau gyfforddus i roi gwybod i chi fod delwedd eich retina wedi'i chymryd. Bydd hyn yn cymryd llai nag eiliad. Mae’r delweddau ar gael ar unwaith i'w hadolygu. Gallwch weld eich retina eich hun. Rydych chi'n gweld yn union yr hyn y mae eich ymarferydd gofal llygaid yn ei weld - hyd yn oed mewn animeiddiad 3D.

Pa mor aml ddylwn i gael optomap?
Dyma benderfyniad y dylai eich optometrydd ei wneud. Fodd bynnag, yn gyffredinol, argymhellir eich bod yn cael optomap bob tro y byddwch yn cael archwiliad llygaid.
Ydy o'n brifo?
Na. Mae'n gwbl gyfforddus a chyflym.
A yw optomap yn ddiogel i blant?
Ydy. Mewn gwirionedd, mae llawer o broblemau golwg yn dechrau yn ystod plentyndod cynnar, felly mae'n bwysig i blant dderbyn gofal llygaid rheolaidd o ansawdd.
Os hoffech gynnwys yr optomap fel rhan o'ch archwiliad llygaid, rhowch wybod i aelod o staff wrth archebu'r apwyntiad gan y gallai fod angen cyrraedd 10 munud yn gynharach.
Mae delweddau Optomap wedi'i gynnwys yn ein cynllun Gofal Golwg.
Cyfeiriad
Barnet Pepper Ltd
Optometrists & Contact Lens Practitioners,
28 Pool Street,
Caernarfon,
Gwynedd
LL55 2AB
Cysylltu:
01286 672717 | staff@barnetpepper.co.uk
