Ffôn: 01286 672 717

A- A A+
Treialu lensys cyffwrdd

imageEr mwyn bwrw ymlaen â threial lensys cyffwrdd, mae'n ofyniad cyfreithiol eich bod yn cael archwiliad llygaid dilys gennym ni neu rywle arall.

Beth sy'n digwydd yn ystod yr apwyntiad treial?
Mae'r apwyntiad treial cychwynnol yn cymryd tua awr. Byddwn yn cynnal archwiliad trylwyr o flaen y llygaid, yn eich cynghori ar fy dewis addas o lensys yn dibynnu ar eich ffordd o fyw a'ch hobïau, yn eich dysgu sut i fewnosod a thynnu'r lensys ac yna'n rhoi rhai lensys cyffwrdd treial i chi fynd â nhw adref.
Bydd gofyn i chi fynychu apwyntiadau ôl-ofal yn dilyn eich treial cychwynnol.

A all pawb wisgo lensys cyffwrdd?
Mae'r rhan fwyaf o bobl yn addas ar gyfer gwisgo lensys cyffwrdd er y gallai rhai ffactorau effeithio ar eich addasrwydd.

Mae gen i astigmatedd, a allaf gael lensys cyffwrdd o hyd?
Cewch, gellir cywiro astigmatedd gyda lensys cyffwrdd, gelwir y rhain yn lensys 'torig'.

Ydw i'n rhy hen ar gyfer lensys cyffwrdd?
Gyda lensys cyffwrdd amlffocal yn fwy llwyddiannus nag erioed, nid yw oedran bellach yn cael ei ystyried yn rhwystr i wisgwyr lensys cyffwrdd.