Ffôn: 01286 672 717

A- A A+
Gwasanaeth Golwg Gwan

Mr Barnet PepperYn syml, mae golwg gwan yn golygu methu â gweld cystal â’r rhan fwyaf o bobl eraill hyd yn oed pan fyddwch chi’n gwisgo sbectol neu lensys cyffwrdd. Gallai hyn fod oherwydd cyflyrau llygaid amrywiol megis Dirywiad Macwlaidd sy'n Gysylltiedig ag Oedran.

Mae ein hymarferwyr Golwg Gwan yn rhan o gynllun Gwasanaeth Golwg Gwan Cymru. Os ydych yn gymwys fel claf Golwg Gwan byddwn wedyn yn gallu gwneud apwyntiad i chi gael cyngor ac offer arbenigol. Siaradwch ag aelod o staff am wybodaeth.

Gallwn hefyd eich rhoi mewn cysylltiad â grwpiau neu glybiau cymorth gwirfoddol lleol, neu drefnu atgyfeiriadau am gymorth ychwanegol gan y gwasanaethau cymdeithasol neu ddarparwyr addysg yn unol â'ch anghenion. Gellir gwneud atgyfeiriadau at eich meddyg teulu neu Offthalmoleg hefyd os oes angen.