Eich apwyntiad |
| Mae’n bwysig dod â rhestr o’r holl feddyginiaethau rydych chi’n eu cymryd ar bresgripsiwn. | |
| Dewch a’ch sbectol bresennol, sbectol haul presgripsiwn ac unrhyw chwyddwydrau a fyddwch yn eu defnyddio efo chi. Mae hyn yn berthnasol i gleifion newydd a rhai presennol. | |
| Os yw dringo grisiau yn peri trafferth i chi, yna a fyddech cystal â rhoi gwybod am hynny wrth i chi wneud apwyntiad er mwyn inni drefnu apwyntiad mewn ystafell ar y llawr gwaelod. | |
| Os ydych am gynnwys un ai’r 'Ultra-wide Retinal Image' neu’r OCT fel rhan o’ch archwiliad llygad, yna rhowch wybod i aelod o staff wrth wneud yr apwyntiad. Efallai y bydd angen i chi ddod i mewn tua chwarter awr yn gynharach ar gyfer hynny. | |
| Os na chewch wybod yn wahanol ymlaen llaw, dylech wisgo eich lensys cyffwrdd wrth ddod i’r apwyntiad. | |
| Os cawsoch wybod bod angen i chi gael drops yn eich apwyntiad, yna ni ddylech yrru car am o leiaf 2-3 awr wedyn. Cofiwch drefnu cludiant. |
Cyfeiriad
Barnet Pepper Ltd
Optometrists & Contact Lens Practitioners,
28 Pool Street,
Caernarfon,
Gwynedd
LL55 2AB
Cysylltu:
01286 672717 | staff@barnetpepper.co.uk
