Cwestiynau Cyffredin |
Yr ydym wedi ein lleoli yn Stryd Llyn, prif stryd siopa Caernarfon, nepell o’r safle bws a’r maes parcio.
Mae maes parcio talu ac arddangos aml-lawr wedi'i leoli'n gyfleus gerllaw, caniatewch 60-90 munud i’ch apwyntiad. Mae Stryd Llyn ar agor fel man gollwng tan 11yb ac yn ailagor am 4.30yh. Mae parcio ar y stryd ar gyfer tymor byr yn unig ac ni chynghorir parcio yma.
Mae'r practis ar agor rhwng 8:50yb a 5:15yh o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae ein slot apwyntiad olaf am 4:30yh.
Rydym wedi neilltuo amser ar gyfer apwyntiad brys, holwch am ragor o fanylion. Efallai y bydd angen diferion yn y llygaid, ac os oes angen rydym yn eich cynghori i beidio â gyrru am 2-3 awr. Trefnwch gludiant addas.
Mae ein optometryddion i gyd yn brofiadol, nifer ohonynt wedi bod gyda'r practis ers blynyddoedd lawer, y mwyafrif ohonynt yn siaradwyr Cymraeg.
Mae'r archwiliad llygaid yn cymryd tua 35 munud, er efallai y bydd angen ymchwiliad pellach trwy sgan OCT a/neu'r Sgan Retina Eang (llun maes eang o'r retina). Bydd yr optometrydd yn cynnal gwiriad iechyd a phresgripsiwn. Byddwch yn cael copi o'ch presgripsiwn ar gyfer eich cofnodion eich hunan ar ddiwedd y prawf golwg.
Bydd y ddolen isod yn rhestru'r holl gategorïau sydd â hawl i brawf golwg y GIG am ddim, a nodwch nad yw sganiau ychwanegol wedi'u cynnwys.
Fe'ch cynghorir i brynu'ch sbectol yn yr un lleoliad â'ch archwiliad llygaid er mwyn osgoi cymhlethdodau. Mae gennym amrywiad eang o fframiau sy'n cynnwys brandiau dylunwyr amrywiol. I weld ein cynigion diweddaraf cliciwch yma
Derbynnir taliadau arian parod, siec a cherdyn (ac eithrio American Express). Mae ein Gofal Golwg scheme hefyd ar gael a fydd yn talu am gost eich archwiliad llygaid, sganiau ychwanegol, gostyngiad ar brisiau lensys cyffwrdd ac yn bwysicaf oll gostyngiad o 30% ar sbectolau a brynwyd.
Cyfeiriad
Barnet Pepper Ltd
Optometrists & Contact Lens Practitioners,
28 Pool Street,
Caernarfon,
Gwynedd
LL55 2AB
Cysylltu:
01286 672717 | staff@barnetpepper.co.uk
